David Lloyd
Ganed David Lloyd yn Aberystwyth ond bu fyw yng Nghaerdydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Gweithiodd i'r BBC yng Nghaerdydd, ITV yn Norwich a Theledu Grampian yn Aberdeen. Dychwelodd i Gymru yn 1972 a gweithiodd fel cynhyrchydd/cyfarwyddwr a Phennaeth Rhaglenni ar gyfer HTV Cymru. Erbyn hyn mae'n rhannu ei amser rhwng Aberystwyth a Chaerdydd.