Gwion Lewis
Mae Gwion Lewis yn fargyfreithiwr yn siambrau Landmark yn Llundain, yn arbenigo yn y gyfraith gyhoeddus a hawliau dynol. Cyn cael ei alw i'r Bar, yr oedd yn Ysgolor Fulbright ym Mhrifysgol Efrog Newydd, lle enillodd radd LLM gan ganolbwyntio ar y gyfraith ryngwladol a hawliau iaith. Mae ganddo hefyd raddau BA a BCL mewn Cyfreitheg o Goleg Iesu, Rhydychen. Cychwynnodd ysgrifennu "Hawl i'r Gymraeg" tra oedd yn Ysgolor Gwadd ym Mhrifysgol yr Undeb Ewropeaidd yn Fflorens dan nawdd Ymddiriedolaeth Saunders Lewis. Mae'n sylwebu'n gyson ar faterion rhyngwladol ar gyfer BBC Cymru.