Peter Hughes-Griffiths
Mae Peter Hughes Griffiths yn wyneb ac yn llais adnabyddus ar lwyfannau Cymru. Mae'n byw yng Nghaerfyrddin ac wedi bod yn faer ar y dref honno. Ef oedd un o sylfaenwyr Cwlwm, papur bro ardal Caerfyrddin ac fe wnaeth gyfraniad helaeth dros y blynyddoedd i raglenni fel Noson Lawen a Dros Ben Llestri.