Dudley Newbery
Brodor o Ynys-y-bwl, Morgannwg yw Dudley Newbery. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siân Norton, Ysgol Gyfun Rhydfelen ac yna yng Ngholeg Bwyd a Thechnoleg Colchester Avenue, Caerdydd. Tra yn y coleg gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf ar y teledu ar y rhaglen Bilidowcar. Mae bellach yn adnabyddus fel cogydd ar ôl sawl cyfres o raglenni coginio ar S4C.