Jane Blank
Ganed a magwyd Jane Blank yn Lloegr ond mae wedi symud yn ôl i'w gwreiddiau yng Nghymru a wedi dysgu'r iaith. Mae Jane nawr yn rhugl yn y Gymraeg, ac yn sicrhau bod ei mab yn dysgu'r iaith. Mae hefyd yn dysgu Saesneg a drama mewn ysgol gyfun Cymraeg. Mae gwaith Jane wedi ennill gwobrau ac wedi ymddangos mewn nifer o gylchgronnau a blodeugerddi gan gynnwys Planet, New Welsh Review, Poetry Wales, Poetry Quarterly Review, y Western Mail, Big Issue, Observer Magazine a'r Independent. Yn ddiweddar, cafodd gyfnod sabothol i astudio Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd ac ers hynny mae wedi mynd yn rhan amser o ran y dysgu er mwyn treulio mwy o amser yn ysgrifennu. Mae Jane yn aelod o Lenyddiaeth Cymru / Academi Cymraeg o Ysgrifennwyr. Darllenwch mwy ar flog Jane: http://gwefanhyfryd.wixsite.com/janeblank/blog