Elin Llwyd Morgan
Ganed Elin Llwyd Morgan ym mhentref Cefn Bryn Brain, cafodd ei magu yn Sir Fôn, a bu'n byw hefyd yn Aberystwyth a Chaernarfon. Bellach mae'n byw yn Nyffryn Ceiriog efo'i chymar Peris a'u mab Joel. Cyfieithu yw swydd bob dydd Elin, ond yn ogystal bydd hi hefyd yn barddoni, yn adolygu ac yn gohebu.