Angela Roberts
Mae Angela Roberts yn byw mewn hen felin lechi wrth droed yr Wyddfa gyda'i theulu. Mae wedi ysgrifennu dros naw deg o sgriptiau ar gyfer y teledu, radio a ffilmiau, ac mae wedi cael ei gwobrwyo BAFTA Cymraeg am y Ddrama Orau i Blant, a'i henwebu ar gyfer BAFTA Prydeinig am y Ddrama Orau i Blant. Mae ei chyfres deledu, Anturiaethau Jini Mê Jones, yn glasur ymysg y Cymry.