Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.
Llun o Hilda Hunter

Hilda Hunter

Cafodd Hilda Hunter ei geni yng Nghanolbarth Lloegr yn 1919. Ar ôl gyrfa fel cerddor a bywyd o waith ac astudiaeth yn Lloegr a Chymru, ymddeolodd i'r Amwythig, a daeth cyfle i wireddu breuddwyd a fu yng nghefn ei meddwl ers ei chyfnod yn Aberystwyth yn y pumdegau, sef dod yn fwy cyfarwydd a'r iaith Gymraeg. Yn y flwyddyn 2000, gwelodd ei ffordd yn glir i astudio'r iaith Gymraeg o ddifrif. Yn ei geiriau ei hun: "Myfyriwr gydol oes ydw i. Po fwyaf astudiaf a darganfyddaf, mwyaf fy nghariad a'm parch tuag at fy nghyfeillion Cymreig, eu mamiaith a'u mamwlad."

LLYFRAU GAN YR AWDUR

Dyfal Donc - Hunangofiant Hilda Hunter

- Hilda Hunter
£5.95

Dysgu Cymraeg / Venturing into Welsh

- Hilda Hunter, Carol Williams
£5.95