Huw Owen
Yn frodor o Cross Hands, Sir Gâr, bu Dr Owen yn archifydd, gweinyddwr a darlithydd yn Aberystwyth a Chaerdydd yn ystod ei yrfa. Hyd ei ymddeoliad ef oedd Ceidwad Darluniau a Mapiau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'n weithgar gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru, yn aelod o bwyllgor gwaith CAPEL, a Bwrdd Ymddiriedolaeth Addoldai Cymru.