Cennard Davies
Mae Cennard Davies yn frodor o Dreorci. Graddiodd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe cyn cael ei benodi yn bennaeth Canolfan Astudiaethau Iaith Prifysgol Morgannwg. Mae wedi cyhoeddi nifer o gyfrolau ac roedd yn un o'r tiwtoriaid wnaeth ysgrifennu a chyflwyno cyfres Catchphrase ar Radio Wales.