Gwen Lasarus
Cymhwysodd Gwen Lasarus fel athrawes ond mae wedi bod yn actores ers dros 20 mlynedd. Yn dod o Lanfairpwll, Sir Fôn, aeth i Ysgol David Hughes. Darllen, nofio, yoga, coginio, beicio a cherdded yw ei diddordebau pennaf. Ei dylanwadau cynharaf oedd Enid Blyton ac yna Kate Roberts, John Gwilym Jones, Siôn Eirian ac yn fwy diweddar Frank McCourt, Helen Fielding a M. Scott Peck.