Dai Vaughan
Wedi'i eni'n 1933, cofrestrwyd Dai Vaughan yn Ysgol Techneg Ffilmiau Llundain yn 1956. O 1963 fe weithiodd fel un o olygwyr ffilmiau dogfen uchaf eu parch ym Mhrydain. Mae'n adnabyddus am ei waith ar Decision: British Communism (1978), Mafia No! (1967) ac Orient: Club for a Fiver (1995). Roedd yn ysgolhaig yn ogystal ag yn gynhyrchydd. Bu farw Dai Vaughan yn 2012.