Ieuan Rhys
Ganed yr actor Ieuan Rhys ym mhentref Trecynon, ger Aberdar. Cafodd hyfforddiant fel actor yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd. Mae Ieuan Rhys wedi gweithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Genedlaethol yn Llundain yn ogystal a actio mewn nifer o ffilmiau a gyfresi teledu fel Gwaith Cartref. Yn ogystal a hyn mae Ieuan Rhys yn ganwr ac yn awdur.