Emyr Price
Magwyd Emyr Price ym Mhwllheli yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bu'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor a ennillodd MA ar hanes bywyd Lloyd George. Aeth yn athro wedyn, yn darlithio am gyfnod yn y Coleg Normal. Bu'n astudio yn yr LSE yn Llundain ac yn Olygydd "Y Faner" yn ystod cyfnod cythryblus yr 80au cynnar. Aeth yn ei flaen wedi hynny i fod yn ohebydd a newyddiadurwr i HTV Cymru. Bu farw yn 2009.