Robin Llwyd ab Owain
Ers 1991 mae Robin wedi gwrthod cyfweliadau am ei waith fel bardd a'i waith dyddiol gyda phob sianel radio a theledu oherwydd: 'mae nhw'n rhy Americanaidd, yn rhy Saesnigaidd ac yn gwbwl annigonol. Does dim angen S4C a Radio Cymru arnom bellach; mae pob bardd a llenor yn sianel ynddo'i hun, yn gyhoeddwr ynddo'i hun drwy gyfrwng y we.' Yn wreiddiol o Wynedd, mae'n rhestri Robat Jones, Chwilog, Alan Llwyd a'i dad (a brynodd llyfrau iddo ar y pwnc) fel y rhai a ysgogodd i gynganeddu a fe ysgrifennodd ei gywydd cyntaf 'Y Tractor' ar gyfer Eisteddfod yr Urdd – noson cyn ei arholiad Lefel A Cymraeg.