John Osmond
Magwyd John Osmond yn Y Fenni. Dechreuodd ei yrfa fel newyddiadurwr i'r Yorkshire Post cyn symud yn ôl i Gymru i weithio i'r Western Mail a'n hwyrach HTV Cymru gan fod yn rhan o sefydlu'r rhaglen Wales this Week a chynhyrchu nifer o gyfresi dogfen gan gynnwys The Divided Kingdom i Sianel 4. Daeth yn Ddirprwy Olygydd i'r Wales on Sunday rhwng 1988 a 1990. Sefydlodd cwmni teledu ei hunan, Agenda Productions. Yn 1996 daeth John yn gyfarwyddwr i Sefydliad Materion Cymreig, gan ymddeol yn 2013. Mae John hefyd wedi bod yn ymgeisydd aelod Seneddol i Blaid Cymru i'r Preseli Sir Benfro yn 1997.