Robat Gruffudd
Cafodd ei eni yn y Rhondda a'i fagu yn Abertawe. Aeth i'r Brifysgol ym Mangor lle cynhyrchodd y rhifyn cyntaf o'r cylchgrawn 'Lol' gyda Penri Jones. Yn 1966 sefydlodd Y Lolfa, y wasg lle mae'n dal i weithio. Enillodd ei nofel 'Y Llosgi' Wobr Goffa Daniel Owen (1986) ac roedd 'Crac Cymraeg' ar restr fer Llyfr y Flwyddyn ym 1996. Yn 2012 enillodd ei bedwaredd nofel, Afallon, Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg.
LLYFRAU GAN YR AWDUR
1-6 o 15 | 1 2 3 | |
Cyntaf < > Olaf |