Lefi Gruffudd
Magwyd Lefi yn Nhalybont. Astudiodd hanes ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth. Yn dilyn cyfnodau fel llyfrgellydd ym Mangor ac Aberystwyth, mae bellach yn olygydd i'r Lolfa. Mae'n hoff o chwaraeon, cerddoriaeth ac yfed, ac mae ganddo golofn wythnosol yn y Western Mail.