Gareth Miles
Roedd y diweddar Gareth Miles yn awdur ac ymgyrchydd Cymraeg. Fe'i ganwyd yng Nghaernarfon. Bu'n Drefnydd Cenedlaethol undeb athrawon UCAC ac yn un o sefydlwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Bu'n Gadeirydd, Ysgrifennydd a Golygydd Tafod y Ddraig yn ei dro. Bu'n gweithio fel awdur proffesiynol ers 1982.