Eirian Mai
Magwyd Eirian Mai Evans yng Nghwmtwrch a Chwmafan ym Morgannwg, ac yng Nghlynarthen, Ceredigion. Wedi graddio yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, bu am gyfnod yn athrawes Gymraeg yn y ddinas, cyn ymuno â staff olygyddol cylchgronau'r Urdd. Bu'n Athrawes Fro yn ardal Bro Ddyfi a chyfrannu'n gyson i'r Wawr.