Gareth Parry Jones
Mae Gareth Parry Jones yn enedigol o Aberdaron, ac yn fab y mans. Bu'n ddisgybl yn Ysgol Botwnnog cyn symud i astudio Meddygaeth yng Ngholeg Meddygol Lerpwl. Treuliodd 32 mlynedd fel Meddyg Teulu yng Nghaernarfon cyn ymddeol. Bu'n ymwneud ag addysg feddygol am flynyddoedd. Mae'n gyn-Lywydd y Gymdeithas Feddygol, ac yn aelod o Orsedd y Beirdd. Mae'n briod â Nia, yn dad i Deian ac Iwan, ac yn daid i Efa Glyn a Caio.