Ffion Enlli
Magwyd Ffion Enlli yn Dwyros, Aberdaron ym mhen draw Llŷn. Astudiodd Ffrangeg a Saesneg ym Mhrifysgol Royal Holloway, Surrey. Mae wedi byw a gweithio ym Mharis a Perpignan a bu'n gweithio mewn asiantaethau dylunio a brandio yn Llundain am bron i 6 mlynedd. Bellach mae'n byw yn Uwchmynydd, yn gweithio fel sgwennwr llawrydd ac yn rhedeg caffi Plas Carmel yn Anelog, Llŷn.