J. Glyn Davies
Ysgolhaig yr ieithoedd Celtaidd, ysgrifennwr caneuon a bardd o Gymro oedd yr Athro John Glyn Davies (22 Hydref 1870 – 11 Tachwedd 1953).
Roedd yn gasglwr ar alawon a cherddi traddodiadol, gan eu haddasu neu eu trosi i'r Gymraeg. Mae sawl cân werin Gymraeg, fel Llongau Caernarfon neu Fflat Huw Puw, yn eiddo iddo.