Peredur Glyn
Daw Peredur Glyn o Fodffordd, Môn. Aeth i Goleg Queens', Caergrawnt, i astudio Astudiaethau Eingl-Sacsoneg, Norseg a Chelteg gan gwblhau BA, MA ac MPhil yn y maes. Ar y cwrs hwn y datblygodd ei ddiddordeb a gwybodaeth academaidd o straeon, hanes a mytholeg canol-oesol Cymraeg, sydd yn chwarae rhan flaenllaw yn nifer o straeon y gyfrol. Erbyn hyn, mae'n Uwchddarlithydd mewn Ieithyddiaeth a Dwyieithrwydd ym Mhrifysgol Bangor.