Malcolm Seaborne
Ganed Malcolm Seaborne yng Nghaerdydd ym 1927 a darllenodd hanes yng Nghaergrawnt. Bu'n dysgu mewn ysgolion a phrifysgolion cyn dod yn Brifathro Coleg y Brifysgol, Caer, ac ymddeolodd o'r swydd honno yn 1987. Ysgrifennodd erthyglau ar arddulliau adeiladu gwerinol a chyhoeddodd astudiaeth fawr o hanes pensaernïaeth ysgolion cyn ei farwolaeth yn 2008.