R.T.Jenkins
Ganed Robert Thomas Jenkins, hanesydd ac awdur yn Lerpwl yn 1881. Mynychodd Goleg Prifysgol Aberystwyth a Choleg y Drindod, Caergrawnt cyn cychwyn ar yrfa fel athro yn Llandysul, Aberhonddu. Yn 1930 fe'i penodwyd yn Ddarlithydd Annibynnol Hanes Cymru yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru ac yn ddiweddarach daeth yn Athro.
Ymhlith ei gyhoeddiadau y mae : Hanes Cymru yn y Ddeunawfed Ganrif a Hanes Cymru yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg . Ysgrifennodd a chyhoeddodd ei hunangofiant, Edrych yn ol. Bu farw yn 1969.