Nerys Ann Jones
Ganed a magwyd Nerys Ann Jones ym mhentref Bow Street yng Ngogledd Ceredigion. Wedi graddio gydag anrhydedd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1983, dechreuodd ar waith ymchwil ar ganu englynion Cynddelw Brydydd Mawr, gan ymuno â staff y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth ddwy flynedd yn ddiweddarach.