Dafydd Huws
Ganed Dafydd Huws ym Mangor ym 1949. Fe'i magwyd yn Llanberis ond nid oes perthynas rhyngddo a T Rowland Hughes. Bu'n gyd-fyfyriwr yn yr adran Gymraeg â Charlo Windsor a bu'n athro Cymraeg yn Ysgol Illtud Sant, Caerdydd am ddeunaw mlynedd cyn troi'n awdur llawn amser ym 1989.