Llifon Hughes-Jones
Ganed Llifon Hughes-Jones ym mhentref Carmel ger Y Groeslon a'i addysgwyd ym Mhwllheli, Bangor, Coleg Cerdd Manceinion a Choleg Cerdd y Drindod, Llundain. Mae'n adnabyddus fel darlithydd; arweinydd corau, cerddorfeydd a chymanfeydd; fel adolygydd ac awdur ar bynciau cerddorol; ac fel beirniad mewn eisteddfodau yng Nghymru, Iwerddon, yr Alban a Lloegr.