Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

R. Elwyn Hughes

Addysgwyd R Elwyn Hughes mewn ysgolion lleol ym Maesyfed ac yng Ngholeg Santes Catrin, Caergrawnt lle bu'n Ysgolor yn y Gwyddorau Naturiol. Bu'n Ddarllenydd mewn Biocemeg Maeth yng Ngholeg Technegol Uwch Cymru (Caerdydd) tan ei ymddeoliad yn 1989. Cafodd ei ethol yn FIBiol. Am gyfnod, bu'n Gyfarwyddwr y Gymdeithas er Hyrwyddo Addysg am Fwydydd (Llundain). Roedd yn arbenigo mewn fitamin C a ffibr mewn bwydydd. Bu'n ddylanwad mawr o'r 1960au mewn Gwyddoniaeth trwy'r Gymraeg. Yn 1983 anrhydeddwyd gyda Urdd Derwydd yn Orsedd y Beirdd am ei gyfraniad at Wyddoniaeth a'r Iaith Gymraeg. Bu farw R. Elwyn Hughes yn 2005.

https://cy.wikipedia.org/wiki/R._Elwyn_Hughes_(gwyddonydd)

LLYFRAU GAN YR AWDUR

Dysgl Bren a Dysgl Arian

- R. Elwyn Hughes
£14.95