Hywel Harries
Roedd Hywel Harries yn athro celf. Astudiodd yn Ysgol Gelf Llanelli cyn ymuno gyda'r Awyrlu Brenhinol ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd. Ar ol gadael y Awyrlu Frenhinol, astudiodd yng Ngholeg Technegol Caerdydd. Yng nghyd a'i yrfa dysgu, roedd yn artist ar liwt ei hunan, ac yn cael boddhad mewn darlunio, paentio a chartwnio ar gyfer cylchgronnau a phapurau newydd megis y Cambrian News, Y Goleuad, Cristion a'r Faner. Sefydlodd Cymdeithas Celf Ceredigion yn 1963 a bu'n ddirprwy lywydd o Academi Frenhinol y Cambria, Cadeirydd'r Pwyllgor Celf a Chrefft i'r Cyngor Eisteddfod Genedlaethol a Chadeirydd Ffedaratiwn Grwpiau Celf Gogledd Cymru Bu farw Hywel Harries yn 1990.