Harri Gwyn
Ganed yn Llundain ond symudodd i Benrhyndeudraeth yn 4 oed. Cafodd ei addysg yn ysgol Ramadeg y Bermo a Choleg y Brifysgol, Bangor. Wedi cyfnod byr fel athro ymunodd â'r Weinidogaeth Sifil a bu'n gweithio yn Warwick ac yn Llundain cyn dychwelyd i Gymru i ffermio. Yn 1962 symudodd i Fangor i weithio ar y rhaglen "Heddiw" ac yna bu'n gynhyrchydd rhaglenni radio hyd ei ymddeoliad yn 1979. 'Roedd hefyd yn fardd, ysgrifwr a cholofnydd papur newydd. Bu farw Harri Gwyn yn 1985.