Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.
Llun o Urien Wiliam

Urien Wiliam

Yn wreiddiol o Abertawe addysgwyd yn Ysgol Ramadeg Dinefwr, Abertawe, a Choleg Prifysgol Abertawe lle graddiodd yn y Gymraeg yn 1950. Enillodd radd M.A. yn 1956 am ymchwil ar hanes Ysgolion Morgannwg a Ph.D. o Brifysgol Lerpwl yn 1963 am ymchwil ar brofion deallusrwydd ar gyfer plant Cymraeg eu hiaith. Fe fu'n athro am gyfnod yn Ysgol Ramadeg Doc Penfro, yn Gymrawd Ymchwil yng Nghlinig Cyfarwyddo Plant, Hen Golwyn a threuliodd bedair blynedd yn ddarlithydd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin cyn symud i Goleg Addysg y Barri yn 1964. O 1981 bu'n awdur a chyfieithydd amser-llawn. Yn 1972 a 1973 enillodd Dlws Ddrama'r Eisteddfod Genedlaethol a chafodd gomisiwn i ysgrifennu'r ddrama 'Michal' ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam (1978). Cyhoeddodd ddau lyfr gramadeg ac amryw ddramâu a nofelau e,e, 'Y Llyw Olaf' ac 'Y Pypedau', 'Cyffur Cariad' a 'Twyll Diderfyn'. Cafodd y fraint o lunio'r cartwnau teledu ar gyfer cymeriad adnabyddus y ddiweddar Jennie Tomos - Wil Cwac Cwac, a chreodd y gyfres deledu 'Coleg' ar gyfer cwmni HTV ac S4C yn 1982-3. Fe fu hefyd yn sgriptio'n ysbeidiol ar gyfer rhaglenni radio i blant ac oedolion. Bu farw Urien Wiliam yn Hydref 2006.

https://en.wikipedia.org/wiki/Urien_Wiliam

LLYFRAU GAN YR AWDUR

Twyll Diderfyn

- Urien Wiliam
£5.95

Cyffur Cariad

- Urien Wiliam
£4.95

Corff yn y Capel

- Urien Wiliam
£5.50