Dafydd ap Gwilym
Dafydd ap Gwilym yw un o ffigurau llenyddol mwyaf adnabyddus Cymru'n y canoloesoedd. Fel pob un o'r beirdd yn y canoloesoedd roedd yn ymwybodol ei fod yn etifedd traddodiad hir a nodweddol. Gwaith y Cynfeirdd oedd llenyddiaeth cynharaf Cymru, gan gynnwys rhai o deyrnasau de'r Alban, lle siaradwyd Cymraeg. Mae'r Gogynfeirdd yn perthyn i gyfnod 1100 i 1300 a cafwyd eu noddi gan tywysogion Cymru. Mae galargan Gruffudd ap Yr Ynad Goch i Llyweylyn ap Gruffudd yn un o esiamplau gorau o farddoniaeth y Gogynfeirdd. Gyda ddiwedd tywysogion Cymru, noddwyd y beirdd gan deuluoedd cefnog. Cynhyrchwyd gwaith sylweddol. O Feirdd yr Uchelwyr, y ffigwr mwyaf blaengar ydi Dafydd ap Gwilym. Fe'i anwyd ger Aberystwyth yn 1320 a'i gladdu'n 1370 yn Abaty Ystrad Fflur. Roedd yn perthyn i deulu gyda traddodiad o weithio i goron Lloegr, ffaith a gall esbonio cynlleied o syniadau wrth-Saesneg a gwleidyddol yn ei waith – gwahanol iawn i feirdd eraill cynhedlaeth ar ol Glyndwr. Gellir cyfri dros 150 o gerddi a ysgrifennwyd ganddo ac mae nifer o benillion y tybir mae ef a'u ysgrifenodd hefyd. Thema amlwg yn nifer o'i gerddi yw ei orchwyl am gariad ond hefyd gwelir marwnadau, dychan, cerddi moliant a dathlu prydferthwch natur. Mae'r rhan fwyaf o'i gerddi'n gywyddau cynghanedd, sef ffurf poblogaidd iawn gan unrhyw fardd hyd heddiw. Mae ei feirstrolaeth o gyfrwng cymhleth yn syfrdanol, a llwyddodd roi gymaint o fri i'r cywydd, fel ei fod yn cael ei ystyried i fod hoff ddewis beirdd uchelgeisiol am y 300 mlynedd nesaf.