Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.
Llun o T. Llew Jones

T. Llew Jones

Roedd T. Llew Jones (1915-2009) yn fardd ac yn frenin straeon Cymraeg i blant.


Cafodd ei eni a'i fagu ym Mhentre-cwrt ger Llandysul, a bu'n athro yn yr ardal am 35 o flynyddoedd. Ceredigion oedd ei filltir sgwâr ac mae ei storïau yn llawn cyfeiriadau at lefydd yn yr ardal.


Arweiniodd T. Llew Jones y ffordd yn y 1950au gan ysgrifennu straeon antur poblogaidd i blant yn y Gymraeg, llawer ohonynt yn sôn am arwyr gwerin fel Twm Siôn Cati, Siôn Cwilt a Barti Ddu.


Enillodd wobr Tir na n-Og fwy nag unwaith am ei lyfrau i blant. Dyfarnwyd iddo radd er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1977, ac enillodd Wobr Mary Vaughan Jones yn 1991 am ei gyfraniad i lenyddiaeth Gymraeg i blant.


Y nofel gyntaf ysgrifennodd T. Llew Jones ar gyfer plant oedd Trysor Plas y Wernen. Ysgrifennodd dros 50 o lyfrau, 35 ohonyn nhw i blant. Addaswyd rhai o weithiau T. Llew ar gyfer y teledu hefyd, a'u dangos mewn nifer o wledydd gwahanol ar draws y byd gan gynnwys Chile, De Affrica, Awstralia a'r Almaen.


Yn 2002 cyhoeddodd ei hunangofiant, Fy Mhobol I.


Yn 2015 dathlwyd canmlwyddiant ei eni gyda llwyth o ddigwyddiadau ledled Cymru.

LLYFRAU GAN YR AWDUR

Lleuad yn Olau

- T. Llew Jones
£14.99

Cyfrinach y Lludw

- T. Llew Jones
£3.50

Trysorfa T. Llew Jones

- T. Llew Jones
£14.99

Geiriau a Gerais

- T. Llew Jones
£8.99

Trysor Plasywernen

- T. Llew Jones
£6.99

Fy Mhobol I

- T. Llew Jones
£5.95
13-18 o 24 1 2 3 4
Cyntaf < > Olaf