David Brayley
Cofiannydd ac ysgrifennwr chwaraeon o Abertawe yw David Brayley. Mae wedi cydweithio ar llyfrau â chwaraewyr enwog megis cricedwr chwedlonol Tony Cottey sydd wedi chwarae i Forgannwg a Sussex ac Ashley Williams un o gyn gaptenni Cymru. Mae David hefyd yn golofnydd chwaraeon profiadol. Ysgrifennodd golofn griced Tony Cottey yn y South Wales Evening Post am saith tymor, colofn chwaraeon ei hun i gylchgrawn o'r enw "Sussex Sport" ers 2010, ac mae wedi cyfrannu at sawl cyhoeddiad arall gan gynnwys rhaglen gemau pêl-droed Dinas Abertawe. Mae'n ymweld ag ysgolion yn aml yn hybu darllen am blesur ac yn rhedeg gweithdai ysgrifennu sydd yn ysbrydoli darllenwyr amhrofiadol ifainc i ymddiddan â llythrennedd trwy chwaraeon. Os ydych chi am i David ymweld â'ch ysgol, cysylltwch â fe trwy Drydar @DavidBrayley (Trwy gyfrwng y Saesneg mae David yn cynnig ei sesiynau).