Grahame Davies
Mae Grahame Davies yn fardd, nofelydd, golygydd a beirniad llenyddol sydd wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys Gwobr Llyfr y Flwyddyn. Ym mhentre Coedpoeth ger Wrecsam mae ei wreiddiau, ond mae'n rhannu ei amser nawr rhwng Caerdydd a Llundain. Y mae ei gerddi yn y casgliad Alcemi Dŵr yn amlygu cyfeiriadaeth mor amrywiol â phenillion gwerin, emynau Ann Griffiths, Rubaiyat Omar Khayyam, a gwaith R. S. Thomas a William Wordsworth. www.grahamedavies.com