Euryn Ogwen Williams
Ganed Euryn Ogwen Williams ym Mhenmachno, Gwynedd. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Alun, yr Wyddgrug, a Phrifysgol Cymru, Bangor. Aeth yn syth i fyd darlledu a gweithiodd yn TWW, Teledu Harlech, y BBC, HTV ac S4C yn ystod ei yrfa. Ymgartrefodd Euryn yn Y Barri yn 1971, ac mae'n Ysgrifennydd Eglwys Annibynnol y Tabernacl yn y dref. Ef yw golygydd Y Ddolen, papur misol yr eglwys, ers pymtheng mlynedd. Mae Euryn yn briod â Jenny Ogwen, ac yn dad i Sara a Rhodri. Mae'n daid i dri o wyrion - Soffia, Gabriel Jac a Jodie Rhiannon. Mae'n enillydd ac yn feirniad yn Adran Lenyddiaeth yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn awdur cyfrol o farddoniaeth o'r enw Pelydrau Pell. Cyhoeddodd Tywod a Sglodion gyda Gwasg Gomer ym mis Awst 2012.