Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.
Llun o Iwan Bala

Iwan Bala

Yn wreiddiol o'r Bala, mae Iwan Bala yn byw yng Nghaerdydd bellach ble cwblhaodd gwrs M.A. mewn Celfyddyd Gain yn 1993. Yn 1990 bu'n artist preswyl yn Oriel Genedlaethol Zimbabwe yn Harare, ac aeth yn ôl yno yn 1993 i gyflwyno rhaglen deledu ar y celfyddydau , "Delweddau Zimbabwe' i S4C. Enillodd y Fedal Aur yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 1997 a derbyniodd Fedal Owain Glyndwr am ei gyfraniad i'r celfyddydau yn 1998. Mae'n teithio'n eang i arddangos ei waith, gan gynnwys i Zimbabwe, Gwlad Pwyl, Iwerddon, Croatia, yr UDA, yr Almaen a Galicia ac mae ei waith wedi ei arddangos yn Hong Kong, Mecsico, Llydaw a Gweriniaeth Czech. Yn ogystal mae wedi curadu arddangosfeydd yn Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru, Oriel Glynn Vivian, Abertawe, Neuadd Dewi Sant, Caerdydd a Galeri Caernarfon yn ogystal â chymryd rhan mewn nifer o wyliau celf rhyngwladol. Mae ei waith mewn nifer o gasgliadau preifat ym Mhrydain a thu hwnt, ac mewn sawl casgliad cyhoeddus gan gynnwys Y Tabernacl, Oriel Gelf Fodern Cymru, Prifysgol Morgannwg, Amgueddfa Brycheiniog ac Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru.

LLYFRAU GAN YR AWDUR

Hon - Ynys y Galon, Delweddau o Ynys Gwales yng Ngwaith Iwan Bala

- Iwan Bala
£19.99