Mererid Puw Davies
Magwyd Mererid Puw Davies yn Sir Gaerhirfryn a Chlwyd. Ers hynny mae wedi rhannu ei hamser rhwng Rhydychen a gwahanol diroedd pellennig eraill, yn bennaf yr Almaen. Graddiodd mewn ieithoedd modern ym Mhrifysgol Rhydychen. Gyda'i chwaer Angharad mae Mererid yn gyd-awdur llyfrau antur aml-ddewis. Yn ogystal mae'n awdur gyfrolau o gerddi. Cyhoeddwyd y gyntaf, Darluniau, yn 1988 a ennillodd iddi Fedal Lenyddiaeth Eisteddfod yr Urdd. Mae Mererid hefyd wedi cyhoeddi beirniadaeth lenyddol a diwylliannol yn Gymraeg ar gyfer cylchgronnau megis Tu Chwith; ac yn Saesneg mae wedi cyhoeddi ar agweddau ar fytholeg a straeon tylwyth teg mewn llenyddiaeth Ewropeaidd gyfoes.
https://www.ucl.ac.uk/festival-of-the-arts/foa-people-publication/mererid-puw-davies