Iolo Williams
Ganed Iolo Williams yn Llanfair ym Muallt. Ar ôl ennill gradd mewn Ecoleg, dechreuodd weithio gyda'r RSPB yn 1985. Bellach mae'n wyneb a llais adnabyddus ar radio a theledu ac mae'n arbenigwr heb ei ail. Cyflwynodd lwyth o raglenni i S4C a BBC Cymru gan gynnwys Iolo ac Indiaid America, Bro, Crwydro, Natur Cymru, Gwyllt, Wild Wales, Wild Winter, Iolo's Special Reserves a Iolo's Welsh Safari. Mae'n briod a chanddo ddau o blant.