Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.
Llun o Meilyr Siôn

Meilyr Siôn

Yn wreiddiol o ardal Aberaeron, mae Meilyr bellach yn byw yn ardal y Barri gyda'i deulu ifanc. Mae'n gweithio fel awdur, cyflwynydd actor llawrydd. Mae Meilyr wedi ymddangos ar nifer o sioeau llwyfan gan gynnwys The Lion King ac ar raglenni teledu Holby City, Pobol Y Cwm a Teulu dros y blynyddoedd. Mae hefyd wedi recordio nifer o ddramau radio i Radio 4, Radio Wales a Radio Cymru a throsleisio cartwnau diri ar S4C. Trodd ei sylw at ysgrifennu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae wedi cyfrannu straeon i raglen Tic Toc ar Radio Cymru a throsi cartwnau i S4C. Mae eisioes wedi cyhoeddi llyfrau gyda Gomer gan gynnwys Cyfres Parc Deri a Bwystfil Bryn Bugail, sy'n ran o Gyfres Swigod. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf i blant, sef 'Bwystfil Bryn Bugail' gyda Gwasg Gomer yn 2012. Cyhoeddwyd ei bumed llyfr 'Cysgod y Darian' yn 2017.

LLYFRAU GAN YR AWDUR

Cyfres Swigod: Bwystfil Bryn Bugail

- Meilyr Siôn
£4.99