Eiry Miles
Daw Eiry Miles o Bontypridd yn wreiddiol, ond mae hi bellach yn byw yn Sir Gâr gyda'i gŵr a'i phlant. Ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe, bu'n gweithio ym maes Addysg Uwch a Chymraeg i Oedolion, a threuliodd flwyddyn yn dysgu Cymraeg yn yr Wladfa. Bellach mae hi'n gweithio i'r Ganolfan Dysgu Iaith Genedlaethol fel Swyddog Datblygu'r Cwricwlwm. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf I oedolion 'Glas a Gwyrdd' yn 2017.