Rhys Iorwerth
Mae Rhys Iorwerth yn byw yng Nghaernarfon. Enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 2011. Roedd yn un o sefydlwyr Bragdy'r Beirdd yng Nghaerdydd lle bu hefyd yn cynnal dosbarthiadau cynganeddu. Bu'n aelod o dîm Talwrn Aberhafren ac mae'n aelod o dîm ymryson y Deheubarth. Cyhoeddodd ei gyfrol o farddoniaeth, Un Stribedyn Bach, yn 2014 (Carreg Gwalch) ac enillodd y llyfr hwn gategori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2015. Abermandraw yw ei gyfrol ryddiaith gyntaf.