Mari Elis
Ganwyd Mari Ellis MA yn Nylife, Sir Maldwyn. Graddiodd ym Mhrifysgol Bangor yn 1936 gan dderbyn ei MA yn 1938 ar Farddoniaeth Llawddon a Rhys Nanmor. Bu'n Llyfrgellydd Cynorthwyol yn Kingston-Upon-Thames, Surrey ac yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth cyn priodi Thomas Iorwerth Ellis a chael dau o blant. Enillodd y goron yn Eisteddfod Powys yn 1952 am ei nofel 'Awelon Darowen' a chafodd ei gyhoeddi yn 1965. Mae'r nofel wedi ei selio ar fywyd Thomas Richards, sef ficar Darowen, a'i deulu. Roedd hyn yn ddechrau ymchwil i mewn i 'gweinidogion llenyddol' a sefydlodd eisteddfodau leol. Roedd y gwaith yma yn golygu ymchwilio i mewn i fywydau pymtheg gweinidog gan gynnwys Walter Davies, Gwallter Mechain a Thomas Price, Carnhuanawc. Mae ei chyhoeddiadau yn cynnwys Eglwysi Cymru (gyda Marged Dafydd) (1985) ac Y Golau Gwan (1999), a mae wedi cyfrannu i Lên Cymru, y Bywgraffiadur Cymraeg a'r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (1986 a 1997). Mae hefyd wedi ysgrifennu nifer o erthyglau ac wedi golygu sawl cylchgrawn.Bu'n olygydd tudalen ar gyfer menywod yn Y Cymro a bu'n olygudd papur bro Aberystwyth, Yr Angor.