Bryn Williams
Mae Bryn Williams yn gogydd adnabydddus o Ddinbych yn wreiddiol. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Twm o'r Nant, Dinbych Ysgol Uwchradd Glan Clwyd, Llanelwy a Choleg Llandrillo cyn iddo symud i Lundain a Pharis. Dysgodd ei grefft o dan law chefs sêr Michelin fel Marco Pierre White a Michel Roux Jr. Ef yw perchennog bwyty Odette's yn Primrose Hill, Llundain a Phorth Eirias ym Mae Colwyn. Daeth i amlygrwydd gyntaf ar y rhaglen deledu Great British Menu yn 2006. Mae ryseitiau Bryn i'w gweld yn ei lyfr Bryn's Kitchen (2011) a For the Love of Veg (2013) ond Tir a Môr yw ei gyfrol gyntaf yn y Gymraeg. Ef yw cyflwynydd y gyfres Cegin Bryn ar S4C. Derbyniwyd Bryn i Orsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych yn 2013.