Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.
Llun o Lois Arnold

Lois Arnold

Mae Lois Arnold yn byw ym Mhorth Tywyn yn Sir Gâr ac yn diwtor Cymraeg. Mae'n dysgu dosbarthiadau cadw'n heini hefyd.
Dysgodd Gymraeg fel oedolyn, yng Ngwent ac enillodd Dlws Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 2004.
Roedd darllen yn help mawr iddi wrth ddysgu Cymraeg, ond doedd dim llawer o lyfrau i ddysgwyr ar y pryd. Felly penderfynodd ysgrifennu straeon ei hun. Enillodd y straeon wobr yn Eisteddfod Meifod 2003. Cawson nhw eu cyhoeddi wedyn yn y gyfrol Cysgod yn y Coed. Ers hynny mae wedi ysgrifennu nofelau a straeon eraill i ddysgwyr (E-ffrindiau, Sgŵp, Ffenestri, Agor y Drws, Ffenest a Straeon eraill).
Mae'n mwynhau nofio yn y môr, cerdded, seiclo a garddio. Mae'n canu'r ffliwt a'r gitâr ac yn mwynhau canu mewn corau.

http://www.bbc.co.uk/cymru/adloniant/llyfrau/awdur/lois-arnold.shtml

LLYFRAU GAN YR AWDUR

Cyfres Amdani: Gorau Glas

- Lois Arnold
£4.99

Cysgod yn y Coed - Storïau i Ddysgwyr

- Lois Arnold
£5.99

Sgŵp! - Nofel i Ddysgwyr

- Lois Arnold
£8.99

E-Ffrindiau

- Lois Arnold
£8.99

Ffenestri

- Lois Arnold
£8.99