Huw Jones
Canwr, darlledwr a dyn busnes yw Huw Jones. Daeth yn ffigwr amlwg yng ngherddoriaeth Cymru yn y 1960au gyda'i gân brotest 'Dŵr'. Roedd yn un o sefydlwyr Cwmni Recordiau Sain ac yn reolwr-gyfarwyddwr y cwmni hyd at 1981. Cyd-sefydlodd un o'r cwmnïau teledu annibynnol cyntaf, Teledu'r Tir Glas a'r cwmni adnoddau Barcud. Roedd yn brif weithredwr S4C rhwng 1994 a 2005 a daeth yn gadeirydd Awdurdod S4C ym Mehefin 2011. Ymddeolodd o'r swydd ym Medi 2019.