Nerys Howell
Mae Nerys Howell yn wyneb cyfarwydd iawn i wylwyr Pnawn Da ar S4C ac mewn sioeau bwyd dros Gymru. Yn ogystal â'i slot coginio rheolaidd ar raglen Pnawn Da, mae'n cyflwyno bwyd ac arfer da ar raglenni teledu a radio Cymraeg a Saesneg eraill. Mae ei llyfr dwyieithog, Cymru ar Blât (2009), yn defnyddio cynnyrch o Gymru. Cyrhaeddodd y llyfr y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Llyfrau Coginio Rhyngwladol Gourmand 2010.
Credit llun: Phil Boorman