Daf James
Dramodydd, cyfansoddwr a pherfformiwr arobryn yw Daf James. Mae'n gweithio ym meysydd y theatr, radio, teledu a ffilm drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Hyfforddodd yn nulliau Jacques Lecoq yn y London International School of Performing Arts (LISPA) cyn mynd ymlaen i gyflawni ei ddoethuriaeth yn adran Astudiaethau Theatr Prifysgol Warwig.